Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 12 Tachwedd 2024

Amser y cyfarfod: 13.30
 


240(v3)  

------

<AI1>

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i'r Prif Weinidog

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

2       Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

(30 munud)

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

</AI3>

<AI4>

3       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Cofio - Tynnywd yn ôl

(0 munud)

</AI4>

<AI5>

4       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Wythnos Gwrthfwlio: Iechyd meddwl a llesiant meddyliol dysgwyr

(45 munud)

</AI5>

<AI6>

5       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol

(45 munud)

</AI6>

<AI7>

6       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Diogelwch adeiladau

(45 munud)

</AI7>

<AI8>

7       Cynnig i atal Rheolau Sefydlog Dros Dro

(5 munud)

NNDM8716 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal dros dro y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8715 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 12 Tachwedd 2024.

</AI8>

<AI9>

8       Dadl: Cofio

(60 munud)

NNDM8715 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd parhaus cyfnod y Cofio i deuluoedd a chymunedau yng Nghymru.

2. Yn talu teyrnged i wasanaeth ac aberth unigolion o bob rhan o Gymru sydd yn gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog.

3. Yn cydnabod gwaith diflino sefydliadau, unigolion a gwirfoddolwyr sy'n cefnogi cymuned a chyn-aelodau’r lluoedd arfog ledled Cymru.

Cyd-gyflwynwyr

Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cefnogi'r angen i ymdrechu i gael datrysiad heddychlon i bob gwrthdaro a rhoi terfyn ar ryfel. 

Yn cofio pawb sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfeloedd a gwrthdaro, gan gynnwys anafusion sifil.

</AI9>

<AI10>

9       Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2023-24

(60 munud)

NDM8714 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2023-24.

</AI10>

<AI11>

10    Cyfnod pleidleisio

 

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 13 Tachwedd 2024

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>